top of page

Gweithio o bell yn ystod y pandemig

Cyngor i sefydliadau ar weithio o bell:

  • Ni ddylid ystyried gweithio o bell yn opsiwn hawdd, mae angen cryn reolaeth, amser ac ymdrech i wneud iddo weithio'n llwyddiannus

  • Mae ymddiriedaeth rhwng y rheolwr a'r cyflogai yn hanfodol. Mae angen gadael i bobl weithio'n annibynnol.  Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi gorweithio yn ystod y cyfnod cloi oherwydd eu bod yn teimlo bod angen iddynt gael eu 'gweld' i fod yn gweithio'n galed, a'u bod yn teimlo'n euog pan oeddent yn cymryd seibiant.

  • Rhaid cyfathrebu'n rheolaidd â'r rheolwr a'r tîm ehangach

  • Mae angen i gyflogwyr ystyried lles meddyliol fel rhan hanfodol o'u cyfrifoldebau. Argymhellir hyfforddiant i bob rheolwr. Mae hyn yn arbennig o bwysig nawr, o ystyried y sgìl newydd o sylwi ar arwyddion ac agor cyfathrebu drwy alwadau fideo yn hytrach na mewn cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb

  • Amgylchedd cartref priodol a'r offer angenrheidiol

  • Pan fydd rhai pobl yn dechrau dychwelyd i swyddfeydd ac eraill yn parhau i weithio gartref, mae'n hanfodol cael cydbwysedd da. Mae astudiaethau wedi awgrymu bod treulio mwy na 2.5 diwrnod yr wythnos yn gweithio i ffwrdd o'r swyddfa yn gysylltiedig â dirywiad yn ansawdd cydberthnasau cyd-weithwyr, gyda boddhad swyddi'n gostwng ac yn cyrraedd man gwastad ar ôl 15 awr. Bydd hyn yn amrywio, bydd rhai pobl yn iawn gyda mwy ac mae'n bwysig bod addasrwydd pobl yn cael ei ystyried. Mae gan yr adroddiadau rai argymhellion ar y pwnc hwn

Dewch o hyd i fwy yma:

bottom of page