Iechyd meddwl yn ystod y pandemig
Iechyd meddwl pwy sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y cyfnod cloi a'r pandemig COVID:
-
Oedolion ifanc (18 i 24 oed) - maent yn adrodd meddyliau hunanladdiad ar gyfradd sy'n fwy na dwbl y boblogaeth gyfan. Dyma'r grŵp oedran mwyaf agored i niwed ar unrhyw adeg
-
Rhieni Sengl - yn enwedig y rhai sydd â phlant newydd-anedig hyd at oedran cynradd (sef y plant yr effeithir arnynt fwyaf ym mhob grŵp oedran)
-
Menywod - bu mwy o fenywod na dynion yn adrodd eu bod yn teimlo'n bryderus, yn unig ac yn anobeithiol oherwydd y pandemig. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn dal i ysgwyddo'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau gofalu a rheoli ariannol (ac efallai am eu bod yn fwy parod i siarad amdano!)
-
PDdLlE – effeithiwyd yn anghymesur ar rai cymunedau gan y Coronafeirws oherwydd hiliaeth systemig ond gallai agweddau diwylliannol at iechyd meddwl mewn rhai cymunedau hefyd fod yn ffactor
-
Pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes – yn enwedig y rhai sydd ag anhwylderau bwyta, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol, Anhwylder Straen Wedi Trawma ac anhwylderau personoliaeth
Dewch o hyd i fwy yma: