top of page

Cyfathrebu drwy’r sgrin

Sut i leihau 'blinder Zoom':

  • A oes gwir angen galwad fideo? Cyfyngwch ar y nifer o alwadau bob diwrnod. Weithiau byddai galwad ffôn yn well oherwydd gall pobl ganolbwyntio ar y llais ac efallai’n cerdded o gwmpas tra byddant yn siarad

  • Peidiwch â mynd yn syth i faterion busnes, treuliwch ychydig o amser yn dal i fyny a gwirio materion lles. Mae'n helpu i'n cysylltu, cynnal ymddiriedaeth a lleihau blinder a phryder 

  • Trefnwch gyfnodau seibiant rhwng galwadau fideo

  • Cadwch gyfarfodydd mor fyr â phosibl. Os oes angen iddyn nhw fod yn fwy nag 20 munud, cytunwch y gall pobl gymryd seibiant sgrin fer, nid i gerdded i ffwrdd ond i edrych i ffwrdd o'r sgrin am funud, neu ddiffodd eu camera – bydd rhaid ymddiried ynddynt eu bod yn dal yno ac yn gwrando! Mae ymddiriedaeth yn hanfodol

  • Osgowch Amldasgio - mae astudiaethau'n dangos ei fod mewn gwirionedd yn gwneud pobl yn llai cynhyrchiol. Caewch unrhyw dabiau, hysbysiadau neu raglenni a allai dynnu eich sylw

  • Peidiwch ag edrych arnoch chi’ch hun - lleihewch y ffenestr sy'n eich dangos chi’ch hun

  • Lleihewch annibendod. Gofynnwch i bobl eistedd yn rhywle gyda chefndir plaen iawn neu sefydlu rhith gefndir syml – peidiwch â gadael i bobl gael eu sylw wedi tynnu gan yr hyn sydd ar eich mantell!

Dewch o hyd i fwy yma:

bottom of page